Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
CLA239 - Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â bilio, casglu a gorfodi'r dreth gyngor. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 mewn perthynas â Chymru er mwyn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r amgylchiadau lle y caiff swyddog Cyllid a Thollau ddarparu gwybodaeth i bersonau cymwys, ac at ba ddibenion. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ehangu cymhwysiad y darpariaethau yn Rheoliadau 1992 ynglŷn â chasglu arian am gosbau, ac yn diwygio Rheoliadau 1992 er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod Deddf Diwygio Lles 2012 wedi cyflwyno credyd cynhwysol.
Craffu technegol
Nodwyd y pwyntiau canlynol i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Mae croesgyfeiriad anghywir yn rheoliad 1(1). Cyfeirir at baragraff (3), ond mae’n amlwg mai at baragraff (2) y dylai’r cyfeiriad fod. Mae’n gamgymeriad priodol i’w gywiro wrth gyhoeddi’r Rheoliadau.
[Rheol Sefydlog 21.2(vi) – drafftio diffygiol]
Craffu ar rinweddau
Ni nodwyd pwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn.-
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mawrth 2013